Cymryd Rhan
Mae llawer o ffyrdd y gallwch weithio gydag Shaw Trust i helpu i greu dyfodol sy'n fwy llewyrchus i’n cleieintiaid. Gall unigolion a sefydliadau gymryd rhan yn y ffyrdd canlynol:
Siopau Elusennol
Mae gan Shaw Trust tua 50 o siopau elusennol ledled Cymru a Lloegr. Mae’n gwerthu dillad newydd a dillad a ddefnyddiwyd eisoes, ategolion, offer i’r tŷ ac anrhegion a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth. Mae rhai siopau’n gwerthu dodrefn a nwyddau trydanol hefyd.
Mwy o wybodaeth am
Siopau Adwerthu Shaw Trust.
Gan ein bod yn darparu gwasanaethau mewn lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig, mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan yn eich ardal leol chi. Os ydych am wirfoddoli yn un o'n siopau elusennol, am wirfoddoli i weithio gyda phobl sy'n chwilio am gyflogaeth neu am redeg Marathon Llundain ar ran Shaw Trust, carem glywed gennych. Neu, fel elusen gofrestredig, rydym wrth ein bod i dderbyn rhoddion. Ewch i'n tudalen
rhoddion i gael rhagor o fanylion.